Math | system etholiadol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r term cynrychiolaeth gyfrannol (Saesneg: Proportional representation; neu PR) fel arfer yn cyfeirio at system etholiadol fodern, ble ystyrir cyfran y bleidlais gan blaid, yn ogystal a'r person a gynrychiolir. Os yw 25% o'r bleidlais yn cael ei roi neu ei fwrw i un blaid neilltuol yna rhoddir yr un ganran o seddau i'r blaid honno. Canlynad hyn yw fod pob pleidlais yn cyfri tuag at ethol y cynrychiolydd ac felly ceir llai o bleidleisio strategol; mae'r dull hwn hefyd yn rhoi chwarae teg i bleidiau llai, i'r lleiafrifoedd.[1][2][3]
Ceir dau fath: Rhestr Pleidiau a phleidlais sengl drosglwyddadwy:[4]
Ceir trydydd math, sy'n gyfuniad o'r ddau yma, sef Cynrychiolaeth gyfrannol cymysg (mixed-member proportional representation), un o'r rhain yw Dull D'Hondt, sef y system a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru. Yma, ceir dwy bleidlais: un i'r blaid (ar y ffurflen 'Rhestr Pleidiau' a'r llall i'r person / y cynrychiolydd.[2][5]
|publisher=
(help)